Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
10 Mai 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i Weinidog yr Economi
Alun Davies (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Tillery Valley Foods?
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad bod y crwner yn ymchwilio ymhellach i farwolaeth pedwar claf fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(0 munud)
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Anymataliaeth
(60 munud)
NDM8252 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod anymataliaeth yn parhau i fod yn bwnc tabŵ i fenywod a dynion er ei fod yn fater iechyd cyhoeddus sylweddol;
b) bod dros 90 y cant o famau tro cyntaf yn profi trawma perineol yn ystod genedigaeth sy'n gallu arwain at broblemau anymataliaeth;
c) nad yw 75 y cant o fenywod yn gofyn am gymorth meddygol ar gyfer eu hanymataliaeth er ei bod yn effeithio ar ansawdd eu bywyd waeth pa mor ddifrifol ydyw;
d) bod dynion yn dioddef o anymataliaeth hefyd, yn arbennig yn ddiweddarach mewn bywyd ond mae'n broblem gudd i raddau helaeth.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau anymataliaeth ac i godi ymwybyddiaeth o'r mater ymhlith y cyhoedd.
Cyd-gyflwynwyr
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith - Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – 2022-23
(45 munud)
NDM8258 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: ‘Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – 2022-23’ a osodwyd ar 2 Mawrth 2023.
7 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru
(45 munud)
NDM8257 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2023.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2023.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Twristiaeth
(60 munud)
NDM8259 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 15 – 23 Mai yn Wythnos Twristiaeth Cymru 2023.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir i gymdeithas Cymru gan y sector twristiaeth.
3. Yn gresynu nad yw'r diwydiant twristiaeth wedi gwella o hyd i'r lefelau yr oedd cyn y pandemig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dathlu cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer twristiaid;
b) annog mwynderau a chyfleusterau twristiaeth i gael eu darparu a'u gwella yng Nghymru;
c) cefnogi darparwyr llety hunanddarpar drwy ddiddymu'r trothwy deiliadaeth 182 diwrnod;
d) rhoi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl 4b a rhoi yn ei le bwyntiau newydd:
Yn cefnogi diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o ddatblygiad twristiaeth gynaliadwy.
Yn nodi Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 a basiwyd gan y Senedd ym mis Gorffennaf, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â materion ail gartrefi a thai anfforddiadwy y mae llawer o gymunedau yng Nghymru yn eu hwynebu.
Yn croesawu’r pwerau a’r canllawiau dewisol ar y dreth gyngor ac ail gartrefi. sydd ar gael i awdurdodau lleol, i leihau neu ddileu’r gofyniad i dalu naill ai’r gyfradd premiwm neu gyfradd safonol y dreth gyngor neu’r ddau.
Yn cydnabod bod ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, a’u bod yn cael eu defnyddio er budd twristiaid, busnesau a chymunedau lleol, gan helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus.
Yn croesawu’r ymrwymiad i roi’r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr os ydynt yn dymuno gwneud hynny, yn amodol ar ymgynghoriad.
Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig - Datblygu Cynaliadwy (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022
Canllawiau ar Dreth Gyngor ar Dai Gwag ac Ail Gartrefi
9 Cyfnod Pleidleisio
10 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8256 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
A yw eogiaid yn wynebu difodiant o afonydd Cymru?
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Mai 2023